FreshRemote.Work

Cyfarwyddwr Cyfathrebu (Director of Communications)

optionsHybrid - home based and Cardiff

Contract Type   Permanent Working Pattern   Full time Working Hours   35 Salary   £85,000 - £98,000 dependent on experience Location Options   Hybrid - home based and Cardiff Function Type   External and Corporate Affairs  

Y rôl:

Yma yn yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) ein gwaith craidd yw magu hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyfreithiol.

Rydym yn rheoleiddio mwy na 200,000 o gyfreithwyr a 9,400 o ffyrmiau cyfraith yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn sicrhau bod cyfreithwyr yn gweithio yn ôl safonau proffesiynol uchel, ac yn camu i mewn i ddiogelu'r cyhoedd pan fo angen hynny, gan gefnogi mynediad at wasanaethau cyfreithiol o ansawdd uchel hefyd.

Mae'n waith pwysig ac rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyfathrebu i'n helpu i wneud pethau'n iawn – gan sicrhau bod ein cyfathrebiadau’n taro deuddeg. Byddwch yn gyfrifol am arwain tîm o 20 o bobl sy'n ymdrin â chyfathrebu digidol, allanol, golygyddol, y wasg a digwyddiadau, yn ogystal â chyfathrebu mewnol.

P'un a yw'n effaith AI, y risgiau cyfnewidiol yn y farchnad gyfreithiol, neu achosion amlwg fel sgandal Horizon Swyddfa'r Post, mae ein gwaith ni o dan y chwyddwydr. Os oes gennych hanes o gyflawni mewn sefydliadau cymhleth, y gallu i feddwl yn strategol a sgiliau a barn cyfathrebu rhagorol, dyma'r rôl i chi.

Beth sydd ar gael i chi?

  • Helpu i lunio dull cyfathrebu rheoleiddiwr blaengar sy'n goruchwylio marchnad gwerth £50bn
  • Chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith er budd y cyhoedd
  • Gweithio gyda thîm ymroddedig ac arbenigol i ddarparu cyfathrebiadau effeithiol i ystod amrywiol o gynulleidfaoedd o ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol
  • Y cyfle i arloesi a phrofi dulliau cyfathrebu newydd i'n helpu i sicrhau mwy o effaith

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano:

  • Profiad cydnabyddedig ar lefel uwch wrth ddatblygu a chyflawni strategaeth a chynlluniau cyfathrebu effeithiol
  • Arweinydd cydnabyddedig, sydd â phrofiad o reoli pobl ar draws sawl tîm
  • Profiad amlwg o ddeall materion polisi cymhleth a throi'r ddealltwriaeth yn wybodaeth hygyrch, rymus ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd
  • Crebwyll gwleidyddol rhagorol a barn ardderchog ynglŷn â chyfathrebu
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i lywio amgylchedd cymhleth o randdeiliaid yn effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o'r radd flaenaf, gyda phrofiad o gynrychioli sefydliad ar lefel uwch mewn modd credadwy
  • Profiad o gynghori cydweithwyr ar lefel uwch ynghylch rheoli enw da a materion proffil uchel, cyfrinachol a/neu gymhleth

 

Mae proffil rôl llawn wedi'i gynnwys ar waelod yr hysbyseb yma.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol

Mae gennyn ni fodel gweithio hybrid gyda chymysgedd o weithio gartref ac yn y swyddfa. Bydd disgwyl ichi fod yn y swyddfa o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.

Mae'r rôl hon yn barhaol. Gall deiliad y swydd gael ei leoli mewn un o'n tair swyddfa yn Birmingham, Llundain neu Gaerdydd. Er hynny, gan fod y tîm wedi'i leoli'n bennaf yn Birmingham, bydd disgwyl i ddeiliad y rôl fod yn swyddfa Birmingham yn rheolaidd (o leiaf unwaith yr wythnos, ac yn aml ddwywaith yr wythnos), yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf y rôl.

Teithio – bydd gofyn ichi deithio i ddigwyddiadau a chyfarfodydd allanol mewn gwahanol leoliadau yn weddol reolaidd.

Yr ystod cyflog y gallwn ei gynnig yw rhwng £85,000 a £98,000 yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad. Yr amrediad cyflog ar gyfer Llundain lle bo hynny'n gymwys yw £93,500 - £107,800.  Mae rhagor o wybodaeth am ein buddion ar gael yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb yn yr hysbyseb, y dogfennau ychwanegol neu ar ein gwefan, cysylltwch â ni drwy: recruitment@sra.org.uk.

Mae proffil rôl llawn ar waelod yr hysbyseb yma.

I wneud cais

Gweler y Proffil Rôl i gael manyleb rôl lawn a defnyddiwch y botwm ymgeisio ar waelod yr hysbyseb.

Gofynnir ichi uwchlwytho CV a Llythyr Eglurhaol i ddangos eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad a sut mae’r rhain yn gysylltiedig yn benodol â gofynion y rôl. Bydd eich CV a'ch Llythyr Eglurhaol yn cael eu defnyddio i greu rhestr fer.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 09:00 ar 13 Ionawr.

Rydym yn disgwyl i gyfweliadau’r cam cyntaf gael eu cynnal ar 3 a 4 Chwefror 2025 yn ein swyddfa yn Birmingham.

 

 

 

The SRA is the independent regulator of solicitors and law firms in England and Wales, protecting consumers and supporting the rule of law and the administration of justice. We do this by overseeing all education and training requirements necessary to practise as a solicitor, licensing individuals and firms to practise, setting the standards of the profession and regulating and enforcing compliance against these standards. We offer an inclusive, supportive and friendly working environment and the chance to develop your career within a professional organisation. We are committed to the health and wellbeing of staff, helping everyone to strike a good balance between personal and professional life.

Additionally, we provide a generous flexible benefits package, including gym membership with a tax only cost, an excellent defined contribution pension scheme and an additional 3% of annual basic salary upon successful completion of probation. Attached Role Profile   Director of Communications Role Profile - Welsh.docx – 32KB Opens in a new window
Converted File Director of Communications Role Profile - Welsh.docx.pdf – 44KB Opens in a new window Vacancy closing date: 13/01/2025, 09:00

The Solicitors Regulation Authority is an Equal Opportunities Employer.

Diversity and inclusion is central to everything we do. We are actively committed to promoting and participating in good practice in the way that we attract, recruit and retain staff.

Everyone is encouraged to bring their whole self to work because we appreciate the value that a truly diverse workforce brings to an organisation. We celebrate difference, recognising the benefits this brings to our inclusive culture, including age, disability, gender identity and expression, religion, race, sex, sexual orientation and socio economic background.

 We are a Stonewall Top 100 Employer, a member of ENEI, a disability confident employer and we are happy to talk flexible working.

Apply

Job Profile

Regions

Europe

Countries

United Kingdom

Restrictions

Must be in office at least 2 days a week Regular office presence in Birmingham

Benefits/Perks

Flexible benefits Flexible working Hybrid work Hybrid Working Impactful role Inclusive culture Professional development opportunities

Tasks
  • Develop communication strategies
  • Lead communication team
  • Manage public relations
Skills

Administration Communication Communications Compliance Digital Communication Diversity Inclusion Interpersonal Policy Understanding Public Representation Recruitment Stakeholder management Strategic Thinking Written communication

Experience

5 years

Education

Solicitor

Timezones

Europe/London UTC+0